#

Y Pwyllgor Deisebau | 23 Hydref 2018
 Petitions Committee | 23 October 2018
 ,Deiseb: P-05-844 Adolygu Cynllun Datblygu Lleol Castell-nedd Port Talbot ar unwaith 

 

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-844

Teitl y ddeiseb: Adolygu Cynllun Datblygu Lleol Castell-nedd Port Talbot ar unwaith

Testun y ddeiseb:

Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar i Lywodraeth Cymru drefnu adolygiad o'r Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer Ardal Castell-nedd Port Talbot, a hynny ar unwaith. Mae angen newidiadau brys er mwyn adolygu'r canllawiau ar gyfer ardaloedd gwledig, yn benodol ynghylch Adfywio Cymoedd Cymru. Fel trigolion lleol, nid ydym yn teimlo bod digon o fesurau ar waith i gadw ein cymunedau rhag datblygiadau masnachol negyddol sy'n effeithio'n ddifrifol iawn ar ardaloedd preswyl. Mae angen newid i orfodi polisïau Teithio Llesol, diogelu anheddau preswyl a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Ni ddarparwyd yn ddigonol ar gyfer ein cymuned ym Mlaengwrach yn y Cynllun Datblygu Lleol a gofynnwn i gamau gael eu cymryd yn gynt na'r adolygiad a drefnwyd ar gyfer 2020. Gofynnwn am y cyfle, o leiaf, i allu ychwanegu eithriadau a chanllawiau i'r Cynllun Datblygu Lleol ynghylch datblygiadau sy'n arwain at gryn lawer o draffig, megis gorsafoedd petrol a bwytai min ffordd.

Y cefndir

Mae gan Gymru system gynllunio sy'n dilyn y cynllun. Mae Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLlau) yn rhan allweddol o'r dull hwn gan y disgwylir iddynt greu’r cyd-destun ar gyfer penderfyniadau rhesymegol a chyson yn unol â pholisïau cenedlaethol. Rhaid i geisiadau cynllunio gael eu penderfynu yn unol â'r CDLl a fabwysiadwyd oni bai bod ystyriaethau perthnasol yn nodi fel arall.

Yn ei llythyr at y Pwyllgor (dyddiedig 25 Medi), mae Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, yn esbonio'n gryno'r gofyniad statudol i awdurdodau cynllunio lleol baratoi, monitro ac adolygu eu Cynlluniau Datblygu Lleol:

The Planning and Compulsory Purchase Act (PCPA) 2004 requires Local Planning Authorities (LPAs) to prepare a statutory development plan for their administrative area. Neath Port Talbot adopted their LDP in January 2016.

The PCPA Act 2004 also requires LPAs to keep adopted plans under review (section 69). The Town and Country Planning (Local Development Plan) (Wales) Regulations 2005, as amended 2015, specifies the time period when a LDP should be reviewed as no longer than four years from adoption (Regulation 41). Neath Port Talbot are due to commence a review of their adopted LDP in January 2020.

The PCPA Act 2004 also requires every LPA to prepare an Annual Monitoring Report (AMR) setting out whether the objectives of the plan are being achieved or not. This includes the effectiveness of the policies, as well as any new legislation or external circumstances which require the plan to be reviewed (section 76). Neath Port Talbot’s first AMR was published in October 2017:

https://www.npt.gov.uk/media/8100/amr_final_oct17.pdf

AMRs are the mechanism for reviewing a LDP and identify if changes to the plan, including strategy and policies, are required and contain indicators which assess the effectiveness of the plan. Neath Port Talbot’s next AMR is due to be published October 2018.

Mae Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 hefyd yn rhoi pwerau cyfarwyddyd eang i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â Chynlluniau Datblygu Lleol. Mae'r rhain yn cynnwys pŵer i gyfarwyddo y dylid diwygio cynllun (adran 70).

Fodd bynnag, mae paragraff 2.13.4 o Polisi Cynllunio Cymru, Rhifyn 9 (polisi cynllunio cenedlaethol Llywodraeth Cymru) yn nodi mai fel yr opsiwn olaf y byddai Llywodraeth Cymru yn ystyried defnyddio ei phwerau cyfarwyddo, lle mae deialog wedi methu a lle mae CDLl:

§    yn codi materion o bwysigrwydd cenedlaethol; neu

§    o bosibl yn cael effeithiau eang y tu hwnt i ardal yr awdurdod sy'n gwneud y cynllun.

Camau Llywodraeth Cymru

Fel y nodwyd uchod, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ysgrifennu at y Pwyllgor mewn perthynas â'r ddeiseb hon. Yn ychwanegol at nodi'r gofynion statudol sy'n ymwneud â CDLlau, mae'r llythyr hefyd yn nodi mai mater i'r awdurdod cynllunio lleol yw monitro ac adolygu Cynllun Datblygu Lleol, ac os oes gan drigolion bryderon, dylid eu cyfeirio at yr awdurdod cynllunio lleol perthnasol.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn nodi nad mater i Weinidogion Cymru yw ymyrryd yn y broses adolygu statudol.

Camau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Nid yw'r mater hwn wedi cael ei ystyried gan y Cynulliad.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.